Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Gweithio mewn partneriaeth gyda’r sector cyhoeddus i ddiogelu ein trigolion

Postiwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn gweithio mewn partneriaeth gyda sectorau Gwirfoddol er mwyn  amddiffyn trigolion y rhanbarth.

Mae staff y Gwasanaeth, mewn partneriaeth â Gwasanaethau Gwirfoddol yn Sir Ddinbych a Chonwy, wedi cynnal gweithdy ar gyfer pobl sydd yn gweithio mewn sefydliadau Sector Gwirfoddol yn y ddwy sir yng Ngorsaf Dân Gymunedol y Rhyl yr wythnos hon.

Meddai Kim Waller, Cydlynydd y Sector Gwirfoddol: "Dyma'r tro cyntaf i ni gynnal digwyddiad fel hwn, sydd yn edrych ar y bartneriaeth rhwng  Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a'r sector Gwirfoddol.  Ro'n i'n falch iawn bod cynifer o gynrychiolwyr o'r sefydliadau hyn yn bresennol sydd yn amlygu'r ffaith bod lle blaenllaw i  ddiogelwch tân o fewn y sefydliadau hyn.

"Rydym am wneud yn siŵr bod pobl yn gwrando ar y sector Gwirfoddol,  a'n bod ni fel Gwasanaeth yn manteisio ar bob cyfle posib i ymgysylltu â'r sefydliadau hyn fel y gallant ein helpu i ddatblygu a darparu ein gwasanaethau i drigolion Conwy a Sir Ddinbych.

"Drwy sefydlu partneriaeth gyda sefydliadu gwirfoddol, mae modd i ni rannu ein cyngor a'n offer â'r rhai sydd fwyaf mewn angen.

Eglura  Debbie Doig Evans a Sabina Dunkling, Swyddogion y prosiect creu'r cysylltiadau gyda Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych a Chonwy:

"Nod y prosiect yw sicrhau bod y Trydydd Sector yn cymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu a darparu gwasanaethau cyhoeddus. Yn aml iawn mae staff a gwirfoddolwyr y Trydydd Sector  yn y sefyllfa orau i wneud yn siŵr bod y bobl fwyaf bregus yn derbyn gwasanaethau addas a thrwy gydweithio gyda'r gwasanaeth tân gallwn wneud gwahaniaeth mawr.  Rydym yn gobeithio y gallwn drefnu rhagor o sesiynau fel hyn a pharhau i ddatblygu gwasanaethau ar y cyd."

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen