Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Canfod corff mewn eiddo ym Mhenygroes - diweddariad

Postiwyd

Cafwyd cadarnhad mai corff dynes 74 mlwydd oed a ganfuwyd yn dilyn tân mewn eiddo ym Mhenygroes ddoe (Dydd Mawrth 14eg Mai).

Cafodd y cymydog, dynes yn ei phedwardegau, ei chludo i'r ysbyty gan barafeddygon am driniaeth oherwydd ei bod wedi anadlu mwg yn ystod y digwyddiad ddoe.  Yr oedd wedi galw'r gwasanaeth tân a achub ar ôl clywed larymau mwg yn seinio o'r eiddo lle'r oedd y tân.

Galwyd diffoddwyr tân o Gaernarfon i'r digwyddiad yn y tŷ teras ar Ffordd Llanllyfni am  15:03 o'r gloch ddoe.  

Mae ymchwiliad ar y cyd i achos y tân rhwng Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ar y gweill ond ni chredir bod achos y tân yn amheus.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen