Digwyddiad yn Kronospan - Diweddariad
PostiwydHeddiw roedd criwiau yn bresennol yn ystod digwyddiad yn Kronospan Ltd, ar Ffordd Caergybi, y Waun.
Roedd y digwyddiad yn ymwneud â gollyngiad cemegol o dancer a oedd wedi cyrraedd y safle.
Fe dderbyniodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru'r alwad am 10.06 o'r gloch y bore yma ac y mae criwiau o'r Waun, Llangollen, Wrecsam a Glannau Dyfrdwy ynghyd â'r Peiriant Diogelu'r Amgylchedd a'r Uned Meistroli Digwyddiadau wrthi'n delio gyda'r digwyddiad ar y safle.
Ni chafodd unrhyw un ei anafu yn ystod y digwyddiad.
Mae diffoddwyr tân wedi bod yn gweithio gydag arbenigwyr ac y mae'r cemegyn bellach wedi ei drosglwyddo i dancer newydd.
Fe ddefnyddiwyd offer arbenigol o'r Uned Amddiffyn yr Amgylchedd rhag ofn.
Y mae'r criwiau yn parhau i fod ar y safle er bod y digwyddiad wedi ei gau. .
MeddaiIan Williams, Pennaeth Ymateb: "Fe weithiodd y criwiau yn dda gyda'r staff diffodd tanau ar y safle i atal y gollyngiad rhag lledaenu a buont yn cynorthwyo staff arbenigol i drosglwyddo'r cemegyn i'r cerbyd newydd.
"Unwaith yn rhagor mae'r digwyddiad yn dangos pwysigrwydd cydweithio rhwng cwmnïau lleol a'r gwasanaethau brys."