Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Dihangfa lwcus i wr oedrannus o dân yn Wrecsam

Postiwyd

 

 

Cafodd dyn oedrannus ddihangfa lwcus o dân yn ei gartref yn Hillcrest, Ponciau yn Wrecsam .

 

Cafodd dau beiriant tân o Johnstown a Wrecsam eu galw i'r digwyddiad am  10.26 o'r gloch heddiw (Dydd Mercher 7fed Ionawr) ac roedd y tân dan reolaeth erbyn 11.29 o'r gloch

 

Fe ddefnyddiodd y dyn a oedd ynghanol ei saithdegau ffon i brocio tân agored ac yna fe adawodd y ffon ar y soffa tra aeth i wneud paned o de iddo'i hun.

 

Heb yn wybod iddo roedd y ffon yn boeth iawn, ac o ganlyniad fe achosodd i'r soffa fynd ar dân.

 

Er bod larwm mwg yn yr eiddo, nid oedd yn gweithio.

 

Fe geisiodd y dyn ddiffodd y tân ei hun, ond fe ledaenodd y tân y gyflym a bu'n rhaid iddo adael y ty.

 

Meddai Dave Roberts, Rheolwr Partneriaeth Sir y Fflint a Wrecsam:

 

"Roedd y trigolyn hwn yn ffodus iawn ei fod wedi mynd allan yn ddianaf a heb anadlu mwg - fe achosodd y tân ddifrod sylweddol i'r llawr gwaelod a difrod mwg yng ngweddill yr adeilad.

 

"Mae'r digwyddiad hwn yn dangos ei bod hi'n bwysig i bawb brofi eu larymau mwg yn rheolaidd - unwaith yr wythnos ydy'n cyngor ni. Fe allem yn hawdd iawn fod wedi gorfod delio gydag anafiadau difrifol neu hyd yn oed ddigwyddiad angheuol."

 

"Mae hi hefyd yn bwysig i bobl gofio defnyddio'r offer cywir wrth ddelio gyda thanau agored. Fe all gwreichion a cholsion ddisgyn ar yr aelwyd ac achosi tân damweiniol, felly defnyddiwch gard tân a gwnewch yn siwr bod marc barcud arno neu ei fod yn cydymffurfio â'r Safon Brydeinig/Ewropeaidd berthnasol."

 

"Gosod larymau mwg  yn y cartref yw'r unig ffordd effeithio' o'ch diogelu rhag tân yn y cartref - ac eto mae 20% o'r digwyddiadau yr ydym ni'n cael ein galw atynt yn digwydd mewn cartrefi heb larymau mwg gweithredol.  Cofiwch - os bydd tân - ewch allan, arhoswch allan a galwch 999."

 

Am gyngor ar ddiogelwch tân ac am gyfle i gael gosod larymau mwg n rhad ac am ddim yn eich cartref cysylltwch â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru am archwiliad diogelwch tân yn y cartref am ddim.

 

I gofrestru, galwch ein llinell rhadffôn 24 awr ar 0800 169 1234 neu ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk neu anfonwch neges destun i 88365, gan ddechrau'r neges gyda'r gair HFSC. Dilynwch ni ar Twitter gan ddefnyddio'r hashtag #DyddMawrthProfi i'ch atgoffa i brofi eich larwm mwg bob wythnos.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen