Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Dyn yn yr ysbyty ar ôl tân yng Nghaernarfon

Postiwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn apelio i aelodau’r gymuned i helpu sicrhau diogelwch perthnasau a chymdogion hŷn ar ôl i ŵr 87 oed fynd i’r ysbyty ar ôl tân yn ei gartref.

 

Galwyd dau griw o Gaernarfon i’r eiddo ar Stryd Hendre, Caernarfon am 21.52 o’r gloch neithiwr (dydd Mercher 2 Rhagfyr) ar ôl derbyn galwad gan gymydog yn dweud bod mwg, a chario’r deiliad, gŵr 87 oed, allan i le diogel.

 

Rhoddwyd ocsigen iddo a thrin ei losgiadau cyn ei drosglwyddo i ofal y parafeddygon. Yn ddiweddarach, cafodd ei drosglwyddo i’r ysbyty i dderbyn triniaeth.

 

Nid oedd larymau mwg yn yr eiddo i roddi rhybudd cynnar bod tân wedi cynnau.

 

Dioddefodd y gŵr losgiadau i’r draed a’i goes dde, ac mae ar hyn o bryd yn yr ysbyty yn derbyn triniaeth.

 

Mae achos y tân yn cael ei archwilio.

 

Meddai Darren Jones o Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Yn anffodus, er gwaethaf ein hymdrechion gorau i sicrhau bod larymau mwg ym mhob eiddo yng Ngogledd Cymru, mae lleiafrif bach o bobl nad oes ganddynt y dyfeisiau hyn yn eu cartrefi, a allai achub eu bywydau.

 

“Rydym yn cynnig archwiliadau diogelwch tân i holl drigolion y rhanbarth – bydd aelod o’r Gwasanaeth yn ymweld â’ch cartref, yn rhoi awgrymiadau i chi ar gadw’n ddiogel, eich helpu i lunio llwybr dianc a gosod larymau newydd – i gyd yn rhad ac am ddim.

 

“Rwy’n gofyn i bawb ystyried teulu neu gymdogion oedrannus neu sy’n agored i niwed, a sicrhau bod eu cartref ­hwythau’­n cael ei archwilio. Gall y rhybudd cynnar a ddarperir gan larwm mwg roi munudau hanfodol i’w helpu i ddianc heb niwed.”

 

I gofrestru i gael archwiliad diogelwch tân am ddim, ffoniwch y llinell 24 awr yn rhad ac am ddim ar 0800 169 1234 neu ewch i www.freesmokealarm.co.uk

 

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen