Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Cydweithredu aml-asiantaeth yn rhwystro llifogydd posibl ym Miwmares

Postiwyd

Roedd asiantaethau amrywiol ledled Gogledd Cymru yn barod dros y penwythnos ar ôl rhybuddion llifogydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

 

Un o’r ardaloedd lle cafodd llifogydd eu hosgoi oherwydd gwaith aml-asiantaeth effeithiol oedd Biwmares, lle’r oedd lefelau uchel o ddŵr yn ffos y castell yn bygwth llifo i’r stryd fawr.

 

Esboniodd Kevin Roberts, Uwch Reolwr Gweithrediadau Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Roedd ein hadnoddau ym Miwmares o 13.59 o’r gloch ar ddydd Sadwrn 5ed Rhagfyr hyd at 06.56 o’r gloch y bore canlynol, gyda phwmp llifeiriant uchel yn tynnu dŵr allan o’r ffos i sicrhau nad oedd y dŵr yn mynd dros yr amddiffynfeydd, a oedd eisoes wedi eu hatgyfnerthu gyda bagiau tywod rhag ofn.

 

“Roeddem yn pwmpio dros 6,000 litr o dŵr y funud o’r ardal ac roeddem yn llwyddiannus yn osgoi toriad gan sicrhau nad oedd eiddo gerllaw ar y stryd fawr yn cael eu heffeithio.

 

“Yr hyn a weithiodd yn arbennig o dda oedd ein perthynas gyda’r warden llifogydd lleol a oedd yn medru amlygu’r broblem, gan ein galluogi i fynychu er mwyn ymyrryd yn gynnar.”

 

Meddai warden llifogydd lleol Biwmares a Maer y Dref Jason Zalot: “Roeddem wedi paratoi y diwrnod blaenorol rhag ofn y byddai pethau’n dirywio, ac roeddem yn parhau i fonitro lefel y dŵr ger y castell. Ar ddydd Sadwrn, medrwn weld bod y dŵr yn y ffos yn codi’n gyflym ac roedd cynrychiolydd y Gwasanaeth Tân ac Achub yno yn asesu’r sefyllfa. Roedd y dŵr yn hel yn gyflym a sylweddolwyd yn fuan bod y sefyllfa’n ddifrifol, a galwodd y Gwasanaeth Tân ac Achub am adnoddau i helpu.

 

“Roedd yr ymateb gan y Gwasanaeth Tân ac Achub yn wych. Heb y pwmp llifeiriant uchel rwy’n sicr y byddai’r dref wedi dioddef llifogydd gan fod llawer iawn o ddŵr wedi ei bwmpio o ffos y castell i’w rwystro rhag llifo i mewn i’r dref.”

 

Pan fydd rhybuddion llifogydd yn cael eu cyhoeddi, cynghorir trigolion i gadw llygad ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn www.naturalresources.wales i gael cyngor ar beth i’w wneud cyn, yn ystod ac ar ôl lligofydd neu ddilyn @NatResWales i gael yr wybodaeth a’r rhybuddion diweddaraf.

 

Cynghorir aelodau’r cyhoedd i gadw’n ddigon pell oddi wrth gyrsiau dŵr sy’n llifo’n gyflym a pheidio â gyrru trwy ffyrdd lle mae llifogydd.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen