Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Dewch i gael golchi eich car a chodi arian i elusen!

Postiwyd

Mae Diffoddwyr Tân Gogledd Cymru yn paratoi i dorchi eu llewys i gymryd rhan yn yr Olchfa Geir Genedlaethol y mis yma, er mwyn codi arian i Elusen y Diffoddwyr Tân.

Mae'r Olchfa Geir Genedlaethol yn ddigwyddiad sefydlog ar galendr y gwasanaeth tân ac achub erbyn hyn gan mai dyma un o brif ddigwyddiadau codi arian yr elusen.  Gwahoddir gyrwyr i fynd draw i'w gorsaf dân leol i gael golchi eu ceir am rodd i Elusen y Diffoddwyr Tân, un o'r prif elusennau yn y DU sydd yn darparu gwasanaethau i wella ansawdd bywyd cyn ddiffoddwyr tân a diffoddwyr tân a'u teuluoedd.  

Bydd gorsafoedd ar hyd a lled y rhanbarth yn cymryd rhan yn y digwyddiad ar Sadyrnau drwy gydol y mis yma.

Meddai Richard Fairhead, Prif Swyddog Tân Cynorthwyol: "Mae'r arian sydd yn cael ei godi yn ystod digwyddiadau codi arian cenedlaethol yn hwb mawr i'r Elusen.

"Yn ogystal â bod yn ddigwyddiad hwyliog a phoblogaidd iawn, mae'r Olchfa Geir Genedlaethol yn rhoi cyfle i ddiffoddwyr tân rannu negeseuon diogelwch pwysig gydag aelodau'r cyhoedd yn eu cymunedau lleol.

" Bydd eich rhodd yn helpu miloedd o ddynion, merched a phlant o'r gymuned tân ac achub pan fyddant mewn angen"

Mae golchfeydd ceir yn cael eu cynnal yn y gorsafoedd tân canlynol:

  • Conwy

  • Llandudno - 7.3.15
  • Cerrigydrudion - 21.3.15

Sir Ddinbych

  • Prestatyn - 21.3.15
  • Llanelwy - 21.3.15

Sir y Fflint

  • Yr Wyddgrug - 28.3.15

Gwynedd

  • Abersoch-  28.3.15
  • Pwllheli - 21.3.15

Môn

  • Caergybi -14.3.15
  • Benllech - 14.3.15
  • Llangefni - 4.4.2015
  • Amlwch - 25.4.2015
  • Rhosneigr - 21.3.15
Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen