Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Wythnos Diogelwch Ffyrdd Byd Eang y Cenhedloedd Unedig

Postiwyd

Yr wythnos nesaf bydd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cefnogi Wythnos Diogelwch Ffyrdd Byd Eang y Cenhedloedd Unedig (4ydd-10fed Mai 2015), ac mae'n gofyn i rieni, athrawon ac eraill gyflwyno cwestiynau i fforymau ar-lein sydd yn delio gyda materion diogelwch ffyrdd a fydd yn cael eu cyhoeddi ar wefan Diogelwch Ffyrdd Prydain yn ystod Wythnos Diogelwch Ffyrdd Byd Eang y Cenhedloedd Unedig.

 

Cynhelir y pedwar fforwm - a fydd yn trafod plant sydd yn cerdded, seiclo a theithio mewn ceir ar y ffyrdd a sut i sefydlu Cynllun Swyddogion Diogelwch Ffyrdd Iau - yn ddyddiol rhwng Dydd Mawrth y 7fed a Dydd Gwener y 10fed, rhwng 12-1pm.

 

Maent yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb.

 

Mae modd i chi anfon cwestiynau ymlaen llaw i'r panel o hwyluswyr arbenigol eu hateb yn  ystod y fforwm.

 

Bydd staff o bob cwr o'r rhanbarth yn ymweld ag ysgolion a grwpiau lleol drwy gydol yr wythnos i'w haddysgu am  y peryglon y mae pobl sy'n defnyddio'n ffyrdd yn eu hwynebu.

 

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn hybu diogelwch ffyrdd drwy gydol y flwyddyn yn ystod rhaglenni fel 'Effeithiau Angheuol', sef rhaglen addysgol sydd yn ymweld ag ysgolion r draws y rhanbarth gyda chyflwyniad grymus sydd yn dwyn i'r amlwg effeithiau angheuol gwrthdrawiadau ar y ffyrdd. Mae'r Gwasanaeth hefyd wedi sefydlu'r prosiect Chwyldro ar gyfer gyrwyr ifanc. Dyma fenter ar y cyd gyda Heddlu Gogledd Cymru sydd yn mynd ati i addysgu pobl ifanc mewn dull rhagweithiol. Mae'n cynnwys gweithdy sy'n ail-greu gwrthdrawiad a'r dasg o dynnu unigolyn o'r cerbyd.

 

Meddai Stuart Millington, Uwch Reolwr Diogelwch Tân: "Rydym yn cymryd rhan yn yr ymgyrch er mwyn siarad gyda phobl yn eu cymunedau a'u haddysgu am bwysigrwydd diogelwch ffyrdd.  Drwy gydol yr wythnos fe fydd staff yn hybu negeson megis; Beth am edrych ar ôl eich gilydd, sydd wedi ei anelu at blant a phobl ifanc, a Canolbwyntiwch rhag gyrru'ch hun i ddifancoll, sydd yn canolbwyntio ar yrwyr ifanc a'r effaith y gallant ei gael ar gerddwyr.

 

"Mae pobl ifanc mewn llawer iawn mwy o berygl o gael eu lladd neu eu hanafu ar ein ffyrdd.  Mae oddeutu 11% o'r holl drwyddedau gyrru yng Nghymru yn perthyn i bobl ifanc ond mae tua chwarter o'r bobl sy'n cael eu lladd neu eu hanafu ar ein ffyrdd yn bobl ifanc.   Yn 2011 roedd  37% o bobl ifanc yn gyfrifol am wrthdrawiadau a achoswyd o ganlyniad i yfed a gyrru.

 

"Mae'r fforymau yn rhan o fentrau cynhwysfawr yma yn y DU i gefnogi wythnos Diogelwch Ffyrdd Byd Eang y Cenhedloedd Unedig 2015, ac rwyf yn eich annog i gymryd rhan yn y fforymau i daflu goleuni ar nifer o gamdybiaethau. Dyma'r ddolen os hoffech gymryd rhan: http://www.roadsafetygb.org.uk/pages/roadsafetyweek/rsw-forums.html"

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen