Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tân yn Ystâd Ddiwydiannol River Lane, Saltney

Postiwyd

Cafodd criwiau eu galw i dân mewn adeilad yn Ystâd Ddiwydiannol River Lane, Saltney am 11.39 o'r gloch Ddydd Mawrth 13 mai.
Mae dwy injan dân o Lannau Dyfrdwy, un o Swydd Gaer ac un o Wrecsam a Threffynnon, ynghyd â'r Peiriant Cyrraedd yn Uchel o Wrecsam a'r Rhyl, y Pwmp Cyfaint Uchel o Landudno a'r Uned Diogelu'r Amgylchedd o Wrecsam yn bresennol.
Mae'r tân yn ymwneud â gwastraff ailgylchu ac o ganlyniad mae mwg du i'w weld yn yr ardal.
Mae swyddogion o Gyfoeth Naturiol Cymru yn bresennol hefyd i helpu Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ac asesu'r effaith  posib ar yr amgylchedd.
Cynghorir trigolion yn ardal River Lane, Saltney i gadw drysau a ffenestri ynghau ac mae trigolion cyfagos wedi gorfod gadael eu cartrefi.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen