Rhybudd i ddefnyddio e-sigaréts yn gywir yn dilyn tân yn y Fflint
Postiwyd'Fe all e-sigaréts roi pobl mewn perygl o dân yn y cartref felly cymrwch bwyll a defnyddiwch hwy yn gywir' - dyma'r neges gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn dilyn tân mewn ty yn y Fflint.
Cafodd dau griw o'r Fflint a Threffynnon eu galw i'r eiddo ar Windsor Drive, Y Fflint am 09.35 o'r gloch Ddydd Mercher, 29ain Ebrill.
Credir bod y tân wedi ei achosi gan nam mewn uned gwefru e-sigaréts a oedd yn cael ei gadw yn y llofft.
Ar adeg y tân roedd pedwar o bobl yn yr adeilad. Cawsant eu rhybuddio am y tân gan larymau mwg. Llwyddodd pawb i fynd allan cyn i'r criwiau gyrraedd a chawsant driniaeth ragofalol gan barafeddygon yn y fan a'r lle oherwydd eu bod yn dioddef o effeithiau anadlu mwg.
Fe ddefnyddiodd y diffoddwyr tân ddau set o offer anadlu a phibell dro i daclo'r tân a oedd wedi ei gyfyngu i'r llofft. Fe achosodd y tân ddifrod mwg 50% i'r llofft, a difrod mwg 10% i'r landin.
Meddai Chris Nott, Rheolwr Diogelwch Cymunedol: "Roedd y bobl yn yr adeilad yn ffodus iawn mai dim ond triniaeth am fân anafiadau o ganlyniad i anadlu mwg y bu'n rhaid iddynt ei gael. Fe allai'r digwyddiad fod wedi bod yn un llawer iawn mwy difrifol. Llwyddodd y criwiau i gyfyngu'r tân i'r llofft, ac roedd dan reolaeth erbyn 10.31 o'r gloch.
"Mae'r digwyddiad yma'n amlygu pa mor gyflym y gall tân ledaenu - a phwysigrwydd ddefnyddio eitemau trydanol yn gywir ac yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr.
"Mae gwasanaethau tân ac achub ar draws y DU wedi bod yn dyst i beryglon e-sigaréts ac felly rydym yn awgrymu eich bod yn cymryd pwyll wrth eu defnyddio.
"Mae e-sigaréts yn defnyddio batris y gellir eu hailwefru i bweru'r anweddydd ac mae gofyn ailwefru'r batris hyn yn rheolaidd.
"Rydym yn eich cynghori i brynu e-sigaréts gan werthwr dibynadwy bob amser ac i ddefnyddio'r batri a'r gwefrydd a ddaeth gyda'r e-sigarét. Defnyddiwch gyfarwyddiadau a chyngor y gwneuthurwr - a diffoddwch hwy a thynnu'r plwg cyn i chi fynd i'r gwely. Defnyddiwch y gwefrydd a daeth gyda'r e-sigaréts yn unig - peidiwch â chymysgu brandiau."
"Peidiwch byth â'u gadael yn gwefru am gyfnod hir - mae e-sigaréts yn gallu gorboethi ac mae hyn yn cynyddu'r perygl o dân."
Am gyfarwyddyd pellach ar e-sigaréts ewch i wefan Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru www.gwastan-gogcymru.org.uk
Mae larymau mwg yn achub bywydau ac yn rhoi amser i chi fynd allan o'r adeilad mewn achos o dân. Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig archwiliadau diogelwch tân yn y cartref yn rhad ac am ddim, lle bydd aelod o'r Gwasanaeth yn dod i'ch cartref, rhannu cynghorion diogelwch tân gyda chi, eich helpu i lunio cynllun dianc a gosod larymau mwg newydd - a'r cyfan yn rhad ac am ddim. Mae'r gwasanaeth hwn ar gael i bawb sydd yn byw yng Ngogledd Cymru.
I gofrestru am archwiliad diogelwch tân am ddim, galwch ein llinell rhadffôn 0800 169 1234 24 awr o'r dydd neu ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk