Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tân mynydd Dwygyfylchi yn ysgogi rhybudd

Postiwyd

Mae diffoddwyr tân yn annog pobl i stopio a meddwl am ganlyniadau tanau glaswellt ar ôl tân yn Nwygyfylchi dros y penwythnos a oedd yn galw am adnoddau gwerthfawr a bygwth diogelwch eiddo gerllaw.

Cynghorwyd pobl sy’n byw yn yr ardal o gwmpas i gau ffenestri a drysau i rwystro mwg rhag mynd i mewn i’w heiddo.

Galwyd criwiau i dân mawr ar fynydd Allt Wen yn Nwygyfylchi, Penmaenmawr ar nos Sadwrn (4 Mehefin) am 22.45 o’r gloch – mae diffoddwyr tân yn dal yno yn monitro’r tân bore heddiw (6 Mehefin) ac yn debygol o aros yno am beth amser.

Ni fu’n bosibl eto penderfynu ar achos y tân.

Meddai Stuart Millington, Uwch Reolwr Diogelwch Tân: “Cawsom nifer o alwadau mewn perthynas â thân Dwygyfylchi a hoffwn ddiolch i bobl am weithredu mewn dull diogel a chyfrifol.               

“Mae’r tywydd sych yn ddiweddar wedi cynyddu perygl tanau mewn ardaoedd gwledig. Mewn cyfnodau cynnes fel hyn, gall glaswellt, eithin a grug fynd yn sych iawn ac o ganlyniad gall tanau ddatblygu’n gyflym iawn, yn enwedig pan fydd yn wyntog, gan arwain at y posbilrwydd o dân yn lledaenu’n gyflym a mynd allan o reolaeth, a’r angen i ni fynychu i’w diffodd.

“Mae’r tân hwn yn rhoi pwysau anferth ar ein hadnoddau, gyda diffoddwyr tân yno am amser sylweddol yn gweithio i’w gael dan reolaeth.

"Yn aml iawn, mae tanau fel hyn hefyd yn digwydd mewn ardaloedd lle mae’n anodd iawn cael mynediad a lle mae’r cyflenwad dŵr yn brin.

 “Hoffwn annog ymwelwyr â chefn gwlad i gymryd gofal ychwanegol pan fyddant allan er mwyn lleihau perygl tân yn y tywydd sych hwn – mae’n bwysicach nag erioed cymryd gofal arbennig wrth daflu sigaréts i ffwrdd, er mwyn osgoi cychwyn unrhyw danau yn yr awyr agored, ac i waredu barbeciws yn ddiogel.

"Atgoffir tirfeddianwyr bod y cyfnod llosgi dan reolaeth ar gyfer ardaloedd yr ucheldir wedi dod i ben ar 31ain Mawrth a bod angen trwydded i losgi y tu allan i’r cyfnod a ganiateir.

 “Cofiwch – mae cynnau tân yn drosedd ac rydym yn gweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru ar achosion bwriadol – bydd y rhai sy’n gyfrifol yn cael eu herlyn.

“Cynghorir unrhyw un â gwybodaeth am droseddau o’r fath i ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen