Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Adduned Blwyddyn Newydd

Postiwyd

Os ydych chi’n dal i chwilio am adduned blwyddyn newydd, mae gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru adduned berffaith ar eich cyfer chi.

Yn 2017 gwnewch yn siŵr bod gennych larymau mwg diweddar, eu bod yn gweithio’n iawn a’u bod wedi eu gosod yn y llefydd cywir i’ch cadw chi a’ch anwyliaid yn ddiogel.

Dim ond ychydig o eiliadau y mae hi’n ei gymryd i brofi larwm mwg; ond fe allai’r eiliadau hyn achub eich bywyd chi, a phawb yn y tŷ.

Mae nifer o bobl yn meddwl bod mis Ionawr yn gyfnod i ailddechrau, ac mae hyn yn berthnasol i ddiogelwch cymaint ag unrhyw beth arall.

Dro ar ôl tro mae larymau mwg wedi rhoi eiliadau prin i alluogi i bobl fynd allan o dân yn ddiogel.

Wyddoch chi fod gan larymau mwg oes o rhwng saith a deng mlynedd, a bod yn rhaid i chi eu newid wedi hyn gan nad ydynt yr un mor effeithiol?

Os ydych chi’n byw mewn eiddo sydd gan nifer o loriau neu dŷ mawr, dydy un larwm mwg ddim digon.

Meddai  Stuart Millington, Uwch Reolwr Diogelwch Tân: “Ar yr adeg yma o’r flwyddyn mae nifer o bobl yn meddwl am newidiadau, mawr neu fach, y gallant eu cyflwyno i ailddechrau a gwella eu bywyd, cartref a lles.

“Fe all larwm mwg eich amddiffyn chi a’ch anwyliaid, ond mae nifer o bobl yn eu gosod ac yna’n anghofio amdanynt, ac felly dydyn nhw ddim yn ymwybodol bod y synhwyrydd wedi cyrraedd diwedd ei oes. 

“I’r rhan fwyaf ohonom, does dim byd yn bwysicach na chadw ein hanwyliaid yn saff a diogel.

“Wrth feddwl am ddiogelu eich anwyliaid, mae hon yn adduned hawdd iawn i’w chadw.”

 

Cadwch eich larymau mewn cyflwr gweithredol da

  • Profwch hwy drwy bwyso’r botwm yn rheolaidd;
  • Gwnewch yn siŵr bod o leiaf un larwm mwg ar bob llawr yn eich cartref;
  • Gosodwch larymau mwg ar ben grisiau, cynteddau ac ystafelloedd sydd gan gyfarpar trydan; a
  • Cymrwch funud i wneud yn siŵr bod perthnasau llai abl hefyd wedi eu hamddiffyn.
Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen